Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Y byd celf yn rhy elitaidd' meddai artist amlwg

Mae artist amlwg o Gymru wedi cyhuddo’r byd celf o fod yn ‘rhy elitaidd’.

Mae’r artist adnabyddus, Wynne Melville Jones, wedi dweud bod angen ‘i gelf celf fod i bawb ac ni ddylai, ar unrhyw gyfrif, gael ei gyfyngu i griw dethol, honedig ddiwylliedig, sydd hefyd yn meddu ar allu ariannol’.

‘Yn rhy aml mae orielau cyhoeddus a rhai sy’n fusnesau preifat yn canolbwyntio’n ormodol ar bobl sy’n gysurus eu byd, a hynny efallai am resymau masnachol,’ meddai Wynne, ‘I mi, dylai celf fod yn gyfrwng sy’n cyfoethogi ansawdd bywyd pawb’.

Daw ei sylwadau yn sgil cyhoeddi Darluniau o Gymru / Paintings of Wales a gyhoeddir yr wythnos hon.

Yn y gyfrol mae’r artist adnabyddus o Geredigion yn dangos rhai o’i hoff ddelweddau, ac yn rhoi blas ar y stori y tu ôl i’r llun a ysbrydolodd ef i godi brwsh, i fachu naws ac i gynnig ei brofiad gweladwy i eraill.

Lansiwyd y gyfrol ddydd Sadwrn mewn arddangosfa o ddarluniau yr artist yn Oriel Rhiannon yn Nhregaron yng nghmwni Ben Lake AS a Sulwyn Thomas gyda cherddoriaeth gan Bois y Fro a Merched Soar.

Mae’r gyfrol drawiadol yn cynnwys rhai o’i luniau enwocaf o olygfeydd cyfarwydd ein gwlad gan gynnwys graig Elvis, capel Soar-y-Mynydd ger Tregaron, Eglwys y Mwnt, Pilleth, Elenydd, Nant y Moch yn Aberaeron, a Pantycelyn – cartref yr enwog William Williams Pantycelyn.

Bellach, mae ei waith wedi creu diddordeb ymhell y tu hwnt i Gymru ac mae ei ddarlun o Soar-y-Mynydd yn eiddo i gyn-Arlywydd UDA, Jimmy Carter, a’i lun o Graig Elvis, Eisteddfa Gurig, yn Graceland Tennessee.

Yn ddiweddar fe aeth Wynne Melville Jones a’i ddarlun o gartref Pantycelyn ar daith o amgylch Cymru - gan gynnwys i’r Senedd yng Nghaerdydd, mewn ymateb i’r diffyg dathlu a chydnabyddiaeth a fu i’r ffigwr cenedlaethol, dylanwadol.

‘Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y casgliad o ddarluniau yn y gyfrol hon yn apelio at drawsdoriad o bobl ac y bydd yn gyfrwng i fynd a chelfyddyd gain at cynulleidfa eang a newydd’ meddai Wynne, ‘Hwyrach y gall ambell i stori y tu ôl i’r lluniau brocio’r cof a hybu’r ymdeilad o falchder yn ein treftadaeth gyfoethog’.

‘Mae llawer o gynnwys fy lluniau yn eiconau Cymreig. Dyma fy nghefndir. Rwy’n teimlo balchder mewn Cymreictod, yn fy nhreftadaeth a’m diwylliant a’m hiaith, ac rwy’n teimlo angerdd a chyfrifoldeb at bopeth Cymraeg a Chymreig,’ eglurodd Wynne.

‘Does dim cwestiwn o gwbwl ynghylch ei angerdd am yr hyn y mae yn ei ddarlunio, yn ei weld a’i baentio ar ganfas, a hynny mewn modd sy’n deilwng o’r gwir artist,’ ychwanegodd Myles Pepper, Cyfarwyddwr Celf Gorllewin Cymru.

‘Y mae creu lluniau i mi yn wir bleser. Fy ngobaith yw fy mod yn gallu rhannu’r mwynhad gydag eraill, trwy gyfrwng fy lluniau,’ ychwanegodd Wynne, ‘Nid wyf angen mwy na hynny’.

Mae Wynne Melville Jones (Wyn Mel) yn gyn-fyfyriwr celf ond efallai yn fwy adnabyddus fel arloeswr ym myd cyfathrebu. Ef yw tad Mistar Urdd ac mae’n Llywydd Anrhydeddus yr Urdd ac yn un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Mae wedi ailddarganfod ei ysfa am gelf yn ddiweddar ac yn prysur ennill ei le fel un o arlunwyr mwyaf blaenllaw Cymru.