Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis

Trist oedd clywed am farwolaeth Hywel Francis yn 74 oed. Ganed yn Onllwyn yn Nyffryn Dulais, yn fab I Dai Francis, arweinydd chwedlonol streic y glowyr yn y 70au. Hywel Francis oedd un o sefydlwyr Llyfrgell Glowyr De Cymru a’r Bevan Foundation.. Bu’n wleidydd yn gwasanaethu Aberafan yn San Steffan hyd at 2015 ac yn Athro Emeritus a Chynghorydd Strategaeth ar Archifau, Polisi Rhanbarthol ac Ehangu Mynediad ym Mhrifysgol Abertawe.

Meddai Robat Gruffudd, Y Lolfa: “Y Lolfa gafodd y fraint o gyhoeddi llyfr olaf Hywel Francis, sef Stories of Solidarity. Roedd Hywel yn ddyn galluog a boneddigaidd ac yn academydd o fri ac yn ymgyrchydd dros y glowyr a hawliau’r dosbarth gweithiol.”