Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis

Mis Ionawr 2019, bu farw y gwleidydd addawol ifanc o Went, Steffan Lewis. Bron i flwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddir y gyfrol Gwladgarwr Gwent / Son of Gwent: Cofio Steffan Lewis, yn Gymraeg a Saesneg, i gofio’r gwleidydd a’r dyn teuluol, gyda chyfraniadau gan deulu a ffrindiau Steffan Lewis, ynghyd â’r gwleidyddion Elin Jones AC, Leanne Wood AC, Carwyn Jones AC ac Adam Price AC ymhlith eraill.

 

Cafodd Steffan Lewis ei ethol yn Aelod y Cynulliad Plaid Cymru yn 2016, yn 32 oed – un o’r ACau ieuengaf. Roedd wedi ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a gwella pethau i Gymru ers oedran ifanc iawn, ac wedi bod ar brofiad gwaith gyda Jocelyn Davies AC yn ei arddegau cynnar. Roedd yn wleidydd peniog a chanddo galon fawr, yn siaradwr da ac yn wrandäwr gwell byth. Fe fu farw o ganser yn 34 oed gan adael ei wraig Shona, a mab ifanc.

 

Disgrifiwyd ef gan Rhuanedd Richards, golygydd y gyfrol, cyn-newyddiadurwr a ffrind agos i Steffan fel “hen ben ar ysgwyddau ifanc”. Yn y gyfrol, ceir deunydd yn y ddwy iaith, gan Steffan ei hun, ac atgofion gan bobol oedd yn ei nabod orau, gan gynnwys rhai o ffigyrau gwleidyddol mwyaf adnabyddus Cymru, ynghyd â ffrindiau agos. Ynghyd â’r erthyglau a’r teyrngedau, a chyfweliad Steffan gyda Beti George ar BBC Radio Cymru ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth, ceir llythyron, lluniau a thoriadau mwy personol sy’n cofio’r gwleidydd, y mab, y gŵr a’r tad. Roedd y dyn o Went yn Gymro croyw, cadarn ac iddo yng ngeiriau Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, “rhyw athrylith i barhau”.

 

Yn ei ragair, cofia Dafydd Wigley:

“Mae rhai pobl yn creu argraff o’r eiliad cyntaf; a’r cyfarfyddiad hwnnw yn sefyll yn y cof trwy’r blynyddoedd. Roedd y tro cyntaf i mi gyfarfod Gwynfor Evans a Dr Phil Williams yn rhai felly; a gwefr arbennig yr eiliad yn aros hyd heddiw.

Mae’r diweddar, annwyl, Steffan Lewis yn un o’r nifer bychan, arbennig hwn. Ac anhygoel hynny – o gofio mai cwta ddeng mlwydd oed oedd Steff pan gyfarfûm ag ef am y tro cyntaf, yn Nhŷ’r Cyffredin.”

 

Bydd canran o freindal gwerthiant Gwladgarwr Gwent: Cofio Steffan Lewis yn cael ei roi i Ysbyty Felindre a fu’n gofalu am Steffan yn ystod ei salwch.