Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dyddiadur amaeth yn mynd o nerth i nerth

Mae grwp o wragedd fferm a gynhyrchodd dyddiadur amaethyddol llwyddiannus llynedd wedi gosod nod i gynhyrchu dyddiadur gwell eleni fydd yn cael ei ddefnyddio gan nifer yn y sector amaethyddol.

Bydd y Dyddiadur Amaeth 2017 a gyhoeddir yr wythnos hon yn uchel ar y rhestr o anrhegion Naolig delfrydol wrth i'r grwp obeithio y bydd pobl yn prynu'r dyddiadur maint A4 fel anrhegion i'w teuluoedd unwaith eto eleni.

Fe greodd y grwp Gwas Fferm y dyddiadur fel rhan o grwp Agrisgôp, sef criw o ferched arloesol o'r un anian o ardal Bala a'r syniad y tu ôl i'r argraffiad cyntaf yn 2016 oedd cadw un o'ch addunedau blwyddyn newydd i fod yn drefnus. Yn dilyn llwyddiant y dyddiadur hwnnw, mae'r grwp bellach yn rhedeg y fenter fel busnes bychain eu hunain.

Mae'r grwp wedi cydweithio gyda chwmni cyhoeddi Y Lolfa ac unwaith eto bydd y dyddiadur yn cynnwys adran i gadw cofnodion ynghyd â hysbysebion gan gwmniau lleol a chenedlaethol.

Mae'r dyddiadur yn cynnwys dyddiadau allweddol o fewn y flwyddyn amaethyddol yng Nghymru, yn ogystal â chyfeiriadur amaethyddol gyda manylion cyswllt busnesau, contractwyr a gwasanaethau amaethyddol lleol a chenedlaethol. Mae'r dyddiadur newydd hefyd yn cynnwys diarhebion sydd yn gysylltiedig â'r tywydd.

'Llynedd fe gytunom ni y byddai'n dda i gynhyrchu rhywbeth fyddai'n ddefnyddiol i helpu ffermwyr ymdopi'n well gyda amserlennu gweithgareddau ffermio a'i wneud yn haws iddyn nhw gofio dyddiadau allweddol heb orfod defnyddio darnau bach o bapur a nodiadau post-it notes ym mhob man' meddai Lowri Rees-Roberts o Dolhendre Isa, Llanuwchllyn, 'Mae'r dyddiadur wedi bod yn lwyddiant ysgubol ac mae'r ymateb wedi bod yn anhygoel'.

Mae'r grwp yn cynnwys Buddug Jones o Ffem Cefn Eithin Glanyrafon, Manon Jones o Brynbedwog Rhosygwaliau, Sarah Dale o Gwernfeistrol, Llidiardau, Sian Jones o Fferm Henblas Llandderfel, Rachael Madeley-Davies o Fedw Arian Uchaf Y Bala a Lindsey Ellis Edwards o Ffarm Tyddyn Ronnen Llanuwchllyn.

'Rydym yn gobeithio bod ar stondinau mewn marchnadoedd Nadolig lleol yn ogystal â'r Ffair Aeaaf yn Llanelwedd. Gobeithio bydd digon o ddyddiaduron i bawb sydd angen un!' ychwanegodd Lowri.