Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyw yn annog blant i ailgylchu

Mae llygredd, yn enwedig plastig, yn bwnc llosg ledled y byd ar hyn o bryd, ac yn cynyddu mewn pwysigrwydd wrth i ni ddysgu mwy am wirioneddau’r difrod a ddaw o’n sbwriel. Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr newydd yng nghyfres boblogaidd Cyw i gyflwyno’r neges i blant – Ailgylchu gyda Cyw.

 

Dyma’r drydydd yn y gyfres o lyfrau Dysgu gyda Cyw (gan ddilyn Pi-po Cyw a Siopa gyda Cyw) sydd wedi’u hanelu at ysgolion a phlant sydd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith.

 

Mae yna ddiffyg llyfrau ar gael ar gyfer Cyfnod Sylfaen ail iaith ac mae’r gyfres wedi cael enw da fel ffordd i blant bach i ddysgu geirfa sy’n gysylltiedig â phatrymau iaith syml ar thema’r stori. Mae’r llyfrau yn elwa o destun dwyieithog ar bob tudalen ac mae’r gyfres eisoes yn cael ei defnyddio mewn ysgolion i atgyfnerthu sgiliau iaith a llafaredd.

 

‘Mae’r gyfres wedi bod yn boblogaidd, ac mae’r Lolfa’n awyddus i ddal ati i lenwi’r bwlch yn y farchnad lyfrau Cyfnod Sylfaen ail iaith,’ meddai Meinir Wyn Edwards o wasg Y Lolfa. ‘Bydd y plant yn gallu uniaethu â phrofiad Cyw drwy fynd i wahanol leoliadau cyfarwydd a dysgu am bwysigrwydd ailgylchu. Rydym yn falch iawn o gydweithio unwaith eto gyda Boom Plant ac S4C i greu’r gyfres.’

 

Mae’r stori yn dilyn Cyw a’i ffrindiau wrth iddynt ddysgu enwau’r lliwiau coch, glas a melyn ar y biniau penodol i ailgylchu gwahanol ddeunyddiau – papur, tuniau a phlastig. Mae hefyd yn cyflwyno’r syniad a’r pwysigrwydd o ailgylchu a thacluso.

 

‘Dyma lyfr delfrydol i rieni, athrawon a phlant di-Gymraeg gael gafael syml ar yr iaith,’ meddai awdur y gyfres, Anni Llŷn.

 

Mae’r llyfr lliwgar yn berffaith i blant bach ddysgu geirfa sy’n gysylltiedig â’r cymeriadau poblogaidd sydd ar S4C a phatrymau iaith syml. Bydd ambell air neu frawddegau byr ar bob tudalen yn Gymraeg, gyda’r cyfieithiad Saesneg ar waelod y dudalen mewn print llai.