Cyhoeddi cyfrol o jôcs i godi arian i'r Gwasanaeth Iechyd
Mae dau ddigrifwr amlwg wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi casgliad o jôcs i godi arian i’r Gwasanaeth Iechyd. Bydd Y Lolfa yn cyhoeddi’r gyfrol Gags for the NHS yr wythnos hon.
Mae Phil Evans o Rydaman yn adnabyddus am ei hiwmor unigryw, cynnes a chyfeillgar ac mae wedi perfformio ym mhedwar ban i gynulleidfaoedd yn Oslo, Canada ac America. Mae Dilwyn Phillips yn awdur sawl llyfr jôcs poblogaidd. Mae’r gyfrol yma yn cynnwys llond trol o straeon doniol a nifer o sylwadau crafog am y cyfnod y cloi ac am iechyd yn gyffredinol.
Dywedodd Phil Evans
“Yn ystod y pandemig, mae ein gweithwyr rheng-flaen ym mhob proffesiwn, wedi profi fod cael dogn iachus o hiwmor yn hollbwysig wrth orfod delio gyda’r pwysau enbyd maent yn eu wynebu. Rydym yn wirioneddol werthfawrogi’r cyfle yma i ysgrifennu llyfr er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl iddynt.”
Ychwanegodd,
“Gobeithiwn, wrth brynu’r llyfr yma, yn ogystal â chyfrannu at goffrau’r Gwasanaeth Iechyd, bydd yn dod a gwên i’r wyneb ac ychydig o ddihangfa.”
Cafodd Dilwyn Phillips ei fagu ym Mhontarddulais, ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Alicante yn Sbaen. Dywedodd,
“Fel rhywun sydd wedi bod yn glaf mewn ysbyty sawl tro ers symud i Sbaen dwi wedi dod i sylweddoli pa mor galed mae staff ysbytai yn ei weithio, yn enwedig gyda’r pandemig presennol a pha mor bwysig yw codi morâl a chael ychydig o hwyl.”
Bydd elw’r gyfrol yn cael ei gyflwyno i elusennau’r Gwasanaeth Iechyd.