Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol sy'n ddathliad o bêl-droed yng Nghymru

Ddwy flynedd ers llwyddiant dynion Cymru yn Ewro 2016, mae’r cyffro’n parhau gyda rheolwr newydd wrth y llyw, enwau chwaraewyr newydd ar wefusau’r cefnogwyr a’r record am y nifer o gapiau i dîm dynion Cymru newydd gael ei thorri gan Chris Gunter. Cawsom ein hysbrydoli gan lwyddiant tîm merched Cymru dan reolwraig newydd, ac mae ein clybiau mawr a bach yn bwysig i ni. Yn destament i’r cyffro hwnnw, cyhoeddir llyfr dwyieithog newydd gan Gwynfor Jones, Pêl-droed Cymru – o Ddydd i Ddydd.  

 

Dyma gyfrol sy’n drysorfa o wybodaeth am bêl-droed Cymru – o’r uchafbwyntiau i’r tor calon, o hanes y clybiau sy’n adnabyddus heddiw i’r rhai sydd wedi hen ddiflannu, o Billy Meredith i Jess Fishlock. Ceir cofnod ar gyfer pob diwrnod o’r flwyddyn a phob cofnod yn llawn manylion a ffeithiau am chwaraewyr, rheolwyr, clybiau, gemau a digwyddiadau yn hanes pêl-droed Cymru.

 

Gyda galwadau cynyddol am agor amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, fe’n hatgoffir mai ar 2 Chwefror 1876 y sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng ngwesty Wynnstay, Wrecsam, y drydydd gymdeithas hynaf yn y byd.

 

Yn ôl Lefi Gruffudd o’r Lolfa: “Mae’r llyfr yn llawn ffeithiau diddorol ac annisgwyl am bêl-droed yng Nghymru. Ceir ffeithiau am rai o gemau cyffrous yr Ewros a gwybodaeth am chwaraewyr ifanc talentog, ond nodir rhai o’r isafbwyntiau hefyd, fel y golled o bedair gôl i ddim yn erbyn Tiwnisia o dan Bobby Gould. Mae gwybodaeth ddi-ben-draw gan Gwynfor Jones am bêl-droed yng Nghymru a deunydd rhyfeddol o ddifyr ar bob tudalen.”


Rhai ffeithiau am rai dyddiadau yn y llyfr:


 2 Chwefror 1876

Sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yng ngwesty Wynnstay, Wrecsam, y gymdeithas genedlaethol drydydd hynaf yn y byd.


6 Mehefin 1998

Tiwnisia – 4, Cymru – 0. Roedd ymweliad cyntaf Cymru â chyfandir Affrica yn brofiad annymunol, a’r perfformiad yn un cywilyddus. Bu ffrae yn yr ystafell newid wedi’r gweir wrth i’r capten Gary Speed fynegi ei farn yn ddiflewyn ar dafod am y tactegau a’r tîm a ddewiswyd gan y rheolwr Bobby Gould.


1 Rhagfyr 1965

Cymru – 4, Denmarc – 2 (Cwpan y Byd, grŵp rhagbrofol 7). Roedd llai na 5,000 wedi mentro mewn tywydd rhewllyd i weld Cymru’n gorffen ymgyrch Cwpan y Byd 1966 gyda buddugoliaeth ar y Cae Ras, Wrecsam.