Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

“Cryno, heriol, cyraeddadwy!” – cyfrol amserol yn rhannu syniadau iwtopaidd ar y Gymru Fydd

“Dwi’m yn disgwyl i bawb gytuno â phopeth yn y pamffled – i rai fydd pethau'n rhy radical, i eraill ddim yn digon radical,” meddai Llywelyn ap Gwilym am ei gyfrol ddwyieithog newydd a gyhoeddwyd yr wythnos hon, sef Llyfr Du Cymru Fydd / The Black Book of the New Wales.

Mae trefnydd ralïau AUOB Cymru a ddenodd filoedd o gefnogwyr cyn cyfnod Covid-19 wedi mynd ati i ysgrifennu ei weledigaeth o Gymru annibynnol. Mae’r awdur Llywelyn ap Gwilym hefyd ar Bwyllgor Canolog YesCymru. Meddai:

“Ers i mi gofio, dwi wedi cefnogi’r syniad o Annibyniaeth, ond mewn modd difeddwl. Ers cael plant a symud yn ôl i Gymru rwyf wedi meddwl yn ddyfnach am wleidyddiaeth, ecoomeg a chymdeithaseg: meddwl mwy am y ‘pam’. Wrth ysgrifennu Llyfr Du Cymru Fydd dechreuais feddwl y gallwn helpu ysgogi’r ddisgwrs.”

Mae’r llyfr yn archwilio beth fydd Cymru annibynnol, ac ysgrifennwyd mewn ysbryd meddwl iwtopaidd: ei phwrpas yw ceisio cwestiynu beth all fod. Mae rhai o’r syniadau a gyflwynir yn ymadawiad radicalaidd o’r status quo, tra bod eraill yn prysur gael eu mabwysiadu fel meddwl orthadocs y chwith. Hefyd, mae rhai syniadau eisoes ar waith gan sefydliadau neu gyrff gwahanol neu wedi bodoli mewn cyfnodau gwahanol, tra bod eraill yn syniadau newydd sbon sy’n cael eu rhoi ar brawf.

Disgrifiwyd y gyfrol fel un "Gryno, heriol, gyraeddadwy!... Syniadau radical am y fath o Gymru gall Cymru fod... Darllenwch a gweithredwch" gan Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru.

Mae’n gyfrol amserol, gyda’r canran o bobl yng Nghymru sy’n cefnogi Annibyniaeth wedi bron â threblu dros y chwe mlynedd ddiwethaf (12% yn 2014, 35% yn 2020). Mae’r ymgyrch Annibyniaeth i Gymru yn prysur gryfhau, gydag aelodaeth YesCymru yn cynyddu o 2,500 i dros 17,000 yn ystod 2020, a nawr yn derbyn sylw cyson yn y wasg Brydeinig ynghyd â dramor.

“Rwy’n gobeithio bydd y llyfr yn helpu symud y sgwrs ymlaen fel bod mwy o bobl yn trafod beth yw ein gwerthoeedd, pa fath o gymdeithas yr ydym am fyw ynddo, a sut; mai Annibyniaeth yw’r llwybr mwyaf realistig ar gyfer cyflawni’r newidiadau yma. Byddai’n drasiedi colli’r cyfle i sicrhau dyfodol gwell i bob un ohonom sy’n galw Cymru’n gartref ac, ar ôl i ni ennill annibyniaeth, ail-greu anghydraddoldeb ac annhegwch presennol y DU. Llyfr Du Cymru Fydd yw fy nghyfraniad at ddyfodol gwell.”