Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Pen ar y Bloc - Vaughan Roderick yng Ngwyl Lyfrau Caerdydd

Ymunwch a Vaughan Roderick yng Ngwyl Lyfrau Caerdydd ar ddydd Sul, Medi 24 am 12 o'r gloch yng ngwesty'r Angel.

Bydd Vaughan yn trafod ei gyfrol newydd, Pen ar y Bloc.

Dyma gofnod unigryw, ffraeth am wleidyddiaeth Cymru dros y degawdau diwethaf gan y sylwebydd craff, Vaughan Roderick.

Ym Medi 2017 dathlir ugain mlynedd ers y refferendwm enwog dros ddatganoli, pan bleidleisiodd pobl Cymru ‘Ie’ dros Gymru. Mae Vaughan Roderick wedi sylwebu ar y datblygiadau ar hyd y daith gan drafod y wleidyddiaeth newydd ochr yn ochr a phytiau hanesyddol, crefyddol a diwylliannol.

Mae un o gydweithwyr Vaughan, Ruth Thomas sy’n newyddiadurwr gyda BBC Cymru ers ugain mlynedd wedi golygu’r cynnwys, gan ychwanegu cyd-destun angenrheidiol mewn modd cryno a darllenadwy, a chasgliad o luniau trawiadol, er mwyn creu cyfanwaith cyfoethog a gafaelgar.