Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gweithdy Stori a Chrefft Maes y Mes

Sesiwn hwyliog am gyfres Maes y Mes. Dewch i wrando ar Nia Gruffydd yn sôn am ei chyfres o bedair straeon am y tylwyth teg sy’n byw yng nghoedwig Maes y Mes – am y pedair ffrind gorau Mwyaren, Brwynwen, Rhoswen a Briallen, eu ffrindiau eraill yn y goedwig a’r anifeiliaid sy’n eu helpu. Cewch glywed straeon y gwanwyn,a’r haf a sut y llwyddodd Brwynwen i ddatrys helynt yr aderyn anferth a phwy helpodd Briallen i gael gwisg hardd i fynd i Barti Gŵyl Ifan! Bydd cyfle hefyd i bawb wneud crefftau syml ar ddiwedd y sesiwn i fynd adref gyda nhw.

Croeso mawr i bawb!
Addas i blant 4 - 7 oed
Cost: £5 - tocynnau ar gael yma: https://www.cardiffkidslitfest.com/cy/digwyddiadau/gweithdy-stori-a-chrefft-maes-y-mes-gyda-nia-gruffydd