Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

'Cydgoguno' gyda Nerys Howell | Bwyd Cymru yn ei Dymor

Ymunwch gyda ni am sesiwn o gyd-goginio arbennig iawn gyda Nerys Howell, awdures Bwyd Cymru yn ei Dymor.

 

Bydd Nerys yn ein harwain cam wrth gam drwy un o'i ryseitiau a fydd yn codi awch tra hefyd yn rhoi mewnwelediad i'w llyfr newydd hyfryd 'Bwyd Cymru yn ei Dymor / Welsh Food by Season'. Ar ddiwedd y digwyddiad yma, byddwch wedi paratoi pryd blasus o fwyd i'w fwynhau adref. 

 

Bydd y sawl gyda thocyn yn derbyn e-bost gyda rhestr cynhwysion ac unrhyw offer cegin fydd angen, o flaen y digwyddiad, ond ni fyddwn yn datgelu'r rysáit tan y noson ei hun!

 

Mae'r digwyddiad yma yn ddwyieithog.

 

***

Mae Nerys Howell yn teithio ledled y byd yn hyrwyddo bwyd a diod o Gymru ac yn wyneb ac enw cyfarwydd ar ein teledu ac ar y radio. Mae'n rhedeg busnes ei hun, Howel Food Consultancy, a chyrhaeddodd ei llyfr dwyieithog 'Cymru ar Blât / Wales on a Plate' (2009) Gwobrau Gourmand Llyfrau Coginio'r Byd (2010).

 

Mae Bwyd yn ei Dymor yn llyfr dwyieithog sy'n llawn ryseitiau hyfryd sy'n hyrwyddo'r gorau o gynnyrch Cymreig. Wedi dychwelyd i Gymru ugain mlynedd yn ôl, sylweddolodd Nerys nad ydym fel cenedl yn clodfori cynnyrch gwych ein gwlad. Mae'r llyfr yn annog pobl i fwyta'n dymhorol ac i brynu'n lleol. Mae'r gyfrol yn llawn lluniau arbennig y ffotograffydd Phil Boorman, sy'n cyd-fynd yn wych gyda ryseitiau maethlon a blasus Nerys.


www.ticketsource.co.uk/griffinbooks