Dim on un peth sydd ar feddwl Twm Siôn Cati, sef dianc o Dregaron. Mae ei fywyd mewn perygl wrth iddo gael ei gyhuddo ar gam o ddwyn caseg enwog Plas y Dolau. A dyna ddechrau ar antur fawr wrth i'r arwr ddilyn ffordd beryglus y porthmyn a'r lladron pen-ffordd rhwng Cymru a Lloegr er mwyn ceisio cadw'i draed yn rhydd. Y cyntaf o dair nofel gyffrous am anturiaethau'r enwog Twm Siôn Cati.