Mae hi bron yn ddydd Nadolig ac mae'r eira'n drwch dros bob man. Ond tybed pam nad yw Mr Gethin mor hapus wrth edrych allan drwy ffenest Pen-bryn? Mae un peth yn siŵr, mae'n mynd i fod yn Nadolig gwahanol iawn iddo fe a Meg y ci eleni! Stori hyfryd am swyn arbennig y Nadolig.
Mae'r lluwchfeydd eira yn golygu na all Mr Gethin fynd i'r pentref felly mae'n mynd ati i wneud coeden Nadolig yn yr ardd. Ond er gwaethaf ei ymdrechion gorau, nid yw'n edrych yn ddim byd tebyg i'r hyn a fwriadwyd. Mae'n mynd i'w wely gyda chalon drom - am y tro cyntaf, fydd ganddo ddim coeden Nadolig ... Addasiad Cymraeg o A Very Berry Christmas.