Merch ei milltir sgwâr yw Thelma Adams, ac eto mae hi wedi teithio dros y byd. Cafodd blentyndod braf yn sir Benfro ac erbyn hyn mae'n un o wragedd busnes mwyaf llwyddiannus Cymru. Sefydlwyd cwmni Caws Cenarth ganddi dros chwarter canrif yn ôl fel ymateb i sefyllfa'r cwotâu llaeth; y teulu sy'n dal i'w redeg ac mae'n mynd o nerth i nerth. Yn yr hunangofiant hwn dilynwn lwybr bywyd Thelma o'r dechreuadau bob cam hyd at heddiw, gan ymweld â sawl cyfandir a goresgyn sawl rhwystr ar hyd y ffordd. Gyda Gwynfor, ei gŵr, wrth ei hochr ers dros hanner canrif, bu'r teulu agos yn gefn iddi hefyd. Mae toreth o hanesion difyr a blasus i'w mwynhau gan frenhines Caws Cenarth. Mae'n ddigon i dynnu dŵr o'ch dannedd.