Mae streic y glowyr yn ei hanterth, a phobl yn gadael eu cymunedau i chwilio am waith. Byw bywyd ar y cyrion fu Stephen Andrews erioed - ac mae tensiwn cynyddol rhyngddo a'i dad. Mae delweddau cyffrous cylchgrawn milwrol yn denu Stephen i ddianc ac ymuno â'r fyddin. Am y tro cyntaf yn ei fywyd mae'n perthyn. Mae'n un o'r hogiau. Ond uffarn sy'n ei aros ar Ynysoedd y Falklands, ac mae ymladd rhyfel yn erbyn yr 'Arjis' yn bell o ddelweddau'r cylchgronau recriwtio.