Un o Ble Wyt Ti?
Golwg grafog ar Gymru trwy lygad Archentwr ifanc sydd ar ymweliad â hen wlad ei dadau. Trafodir y berthynas arbennig rhwng Cymru a'r Wladfa yn ogystal â'r berthynas a'r tensiynau rhwng cenedlaethau. Mae hon hefyd yn stori am hunaniaeth a hunanddarganfod.