'Mae'r tir yn byw ynof fi, yn union fel rwyf innau'n byw yn y tir.'
Mae cerfluniau David Nash yn teithio'r byd, ond mae'r artist byd enwog hwn wedi dewis byw a gweithio yng Nghymru. Mae rhai o'r gweithiau celf sydd agosaf at ei galon yn tyfu yn ei goedwig yng Nghae'n-y-Coed, wedi'u plannu a'u meithrin yno ganddo gydol ei yrfa. Yn ei stiwdio yng Nghapel Rhiw, Blaenau Ffestiniog, y mae'n cadw ei gerfluniau pren, lle maent yn dal i gyfrannu at ei weledigaeth artistig. Mae ymwybyddiaeth ddofn o'r amgylchedd yn ganolog i waith David a daeth i ddeall y coed mewn ffordd arbennig iawn, gan ein dwyn yn nes at y rhyfeddodau hyn o fyd natur