Yn ôl ystadegau diweddar, mae'r oed y mae person ifanc yn "dod allan" gan ddatgan ei fod/ei bod yn hoyw wedi gostwng ryw ddeng mlynedd. Canol yr arddegau i'r arddegau hwyr yw'r oed cyfartaledd bellach, nid yr ugeiniau, a'r ysgol nid coleg neu waith yw'r byd y mae'r person yn troi ynddo. Dyna brofiad Ems, bachgen ysgol 14 oed, yn nofel newydd Ioan Kidd, Mae'n anodd weithiau, yn y gyfres Whap! a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
Drwy lygaid y prif gymeriad Angharad, neu Anji, yr adroddir y stori ac Ems yw ei ffrind gorau. Mae hi'n meddwl y byd ohono ef ac yntau'n ymddiried yn llwyr ynddi hi. Dyna pam y dywedodd wrthi un diwrnod, "Anji, mae 'da fi rwbeth i 'weud wrthot to, rhwbeth pwysig, rhwbeth alle newid popeth rhynton ni… Anji, fi'n hoyw! Hoyw as hell."
Tybed beth fydd ymateb Angharad ac a fydd ei pherthynas ag Ems yn newid?
Trafodir nifer o themâu cyfoes yn y nofel : perthynas pobl â'i gilydd, tor-priodas, rhywioldeb, bygythiadau, ffyddlondeb, ffugio. Mae'n ymwneud â'r dwys a'r doniol a thrwy'r cyfan daw'r darllenydd i adnabod merch annibynnol ei hysbryd wrth iddi hithau ddod i adnabod ei hunan.