'Ond sut medra i fod yn siŵr ma' fel 'na digwyddodd petha?'
Nofel am ddwyn i gof blentyndod yw hon, a phlentyndod nofelydd yn benodol. A phwy ŵyr nad yw'r nofelydd weithiau'n drysu rhwng atgof, ffaith a ffuglen? Mae am adrodd stori Helen Owen, merch o'r Blaenau, sydd ar ei ffordd o'r ysgol fach i'r ysgol fawr ac sy'n gwybod nad yw hi'n 'un o'r genod neis.' Mae Helen yn 'sgwennu penillion na fiw i neb eu gweld nhw, ac yn gyrru ei ffrind gora-i-fod a'i mam i uffarn.' O leia, dyna mae'r awdur yn ei ddweud...
A phan ddaw Nesta - sy'n dweud ei bod hi yn yr ysgol gyda'r awdur slawer dydd - a mynnu darllen darnau o'r nofel sydd ar y gweill, buan y gwelir nad yr un yw'r gorffennol i'r ddwy.
'Dychymyg ydy o, Nesta, nid celwydd.'
'Run peth ydy'r ddau.'
Ganed y Prifardd a'r Prif Lenor Eigra Lewis Roberts ym Mlaenau Ffestiniog, ond mae'n byw yn Nolwyddelan erbyn hyn. Mae ymhlith yr awduron Cymraeg gorau'n fyw, yn boblogaidd gyda'r darllenwyr a'r beirniaid fel ei gilydd. Mae'r nofel hon yn cyd-blethu profiadau hunangofiannol â chymeriadau a digwyddiadau ffuglennol.