Dathliad gwefreiddiol mewn gair a llun o gwm tecaf y cymoedd, Cwm Pennant. Ers cyhoeddi telyneg Eifion Wyn ym 1927 mae lle yng nghalon y genedl i Gwm Pennant, a theimla amryw na fu erioed ar ei gyfyl eu bod yn ei adnabod. Yn ddi-os bydd y gyfrol hyfryd hon yn ychwanegu at y teimlad cynnes hwnnw ond bydd hefyd yn sicrhau lle canolog i drigolion y 'cwm tecaf', sy'n cynnwys bugeiliaid o gig a gwaed ar eu 'cwads', a chynlluniau anturus gan unigolion am y dyfodol.
O ysblander yr eangderau i geinder cen ar garreg, o rasus cŵn defaid i gasgliad o hen luniau teuluol mae David Williams drwy luniau a geiriau yn ein tywys ar daith gofiadwy o gwmpas yr hyn sy'n gwneud Cwm Pennant yn unigryw.