Bwyd a Gwin Dylanwad Da
Cyfrol ddeniadol yn llawn ryseitiau a gwybodaeth am win, gyda llun lliw i bob rysáit, yn ogystal ag awgrym o win i gyd-fynd â'r bwyd. Ceir hefyd hanes teithiau Dylan yn ymweld â gwinllannoedd ledled Ewrop. Cynhwyswyd bwyty Dylan a Llinos, Dylanwad Da yn Nolgellau yn The Good Food Guide bob blwyddyn er 1990.