Aeth deg mlynedd heibio ers i Luc Swan ladd dau aelod o'r boy band 'Fflach!' ac i Emlyn Eilfyw-Jones brofi ei lwyddiant mwyaf gyda'i ffilm ddogfen am y digwyddiad hwnnw. Mae Emlyn yn dal i geisio ennill hygrededd creadigol, ond mae ei brosiect diweddaraf yn llanast llwyr ac yn sicr o dramgwyddo ei nemesis dieflig - comisiynydd ffilm a drama'r Sianel, Steffan Grey. Ac i ychwanegu at y straen, mae gan wraig Emlyn, Cariad, newyddion da o lawenydd mawr iddo...
Yn wahanol i gyfryngis Caerdydd, mae Rod wedi bod yn brwydro trwy gydol ei fywyd ar stad Trelai. Ond mae ganddo freuddwyd, a chamera fideo - ac mae llwybr ei fywyd ar fin gwrthdaro ag un Emlyn yn nofel newydd arobryn o Gaerdydd, sy'n ddilyniant i "Ffawd Cywilydd a Chelwyddau".