Golygiad newydd o'r gyfrol wreiddol.
Prif gynnwys y gyfrol hon yw y 256 o dablau sydd yn ddilyniant i'r tablau yn y gyfrol gyntaf, sef 'Achau ac Ewyllysiau Teuluoedd De Sir Gaernarfon' gan yr un awdur.
Oddeutu tri chwarter y gyfrol hon yn cynnwys achrestrau newydd am deuluoedd o ardaloedd sydd yn ymestyn o ben Llyn yn Sir Gaernarfon trwy Feirionnydd i Sir Drefaldwyn (e.e. tua 25 o dablau am deuluoedd Sir Drefaldwyn), yn ogystal ag ehangiad o'r achrestrau a gyflwynwyd yn y gyfrol gyntaf.
Ceir 40 tudalen o Fynegai i enwau annedd-dai, tua 270 o gyfeiriadau at erthyglau a gyhoeddwyd mewn llyfrau a chylchgronau ac enwau llawer o unigolion a anfonodd fanylion teuluol sydd heb ymddangos mewn cyhoeddiadau ffurfiol. Rhestrir tua 300 o ewyllysiau a ddefnyddiwyd yn yr ymchwil ac fe ddylai mapiau degwm y tair sir (a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru) fod o ddefnydd i leoli'r plwyfi a'r annedd-dai a enwir yn yr achrestrau.