Cyfrol o ysgrifau teyrnged i'r diweddar Athro Dewi Z. Phillips gan gyfeillion a chydweithwyr. Yn ei deyrnged i Dewi dywed Dr Meredydd Evans, 'mi sefydlodd ei hun fel athronydd o bwys cydwladol'. Yr oedd hefyd yn frwd dros athronyddu yn yr iaith Gymraeg.
Bu'r holl awduron (ar wahan i'r Athro Ceri Davies) yn darlithio mewn athroniaeth mewn prifysgolion fel a ganlyn: Meredydd Evans - prifysgolion yn Boston, Bangor a Chaerdydd; Meirlys Lewis - Sheffield; Jonathan Lowe - Durham; Gwynn Matthews - Bangor; Walford Gealy - Aberystwyth; Ceri Davies - Abertawe (Clasuron).
Mae'r gyfrol hon, fel llyfr olaf Dewi, Ffiniau, (a gyhoeddwyd hefyd gan Y Lolfa) wedi ei hanelu at gynulleidfa eang, nid athronwyr academaidd yn unig. Mae tri papur yn cynnig trawsolwg dros ddatblygiadau mewn athroniaeth ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, dau ohonynt yn trafod cyfraniad Dewi i'r maes. Mae'r pedwar papur arall yn trafod syniadau a chysyniadau awduron Cymreig amlwg, sef Morgan Llwyd, Ann Griffiths, Lewis Edwards ac R.S. Thomas, a dau ohonynt yn trafod ymdriniaeth athronyddol o waith dau o'r awduron hyn gan J.R. Jones yn y naill achos a Dewi ei hun yn y llall.