Ymunwch â Wyn Gruffydd ar daith fythgofiadwy i ddilyn Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2011: taith lle mae'r sylwebydd yn rhannu gorfoledd a siom tîm Cymru, ond hefyd yn cael cyfle i ddod i adnabod Selans Newydd a'i phobl. Mewn dyddiadur sydd yr un mor ffraeth a chrafog â'i sylwebaethau ar S4C, cewch ddarlun difyr a gwahanol o rygbi Cymru ac o Seland Newydd fel gwlad, o Wellington i Whangamomona.
Cewch rannu profiadau Wyn a'i gyd-sylwebwyr, Derwyn Jones, Gwyn Jones ac Emyr Lewis, a hefyd rannu ei nosweithiau yn cymdeithasu â chwaraewyr Cymru ac eraill o fawrion y byd rygbi. Ceir ei hanes yn tynnu blewyn o drwyn Warren Gatland ac yn delio gyda'r disgwyliadau a'r ymateb i'r gêm fwyaf yn hanes rygbi Cymru.
Dyma gyfrol liwgar, llawn hiwmor sy'n rhoi darlun unigryw o'r byd rygbi mewn gwlad lle cafwyd croeso twymgalon, lle'r oedd Rhian Madamrygbi i'w gweld ym mhobman, a lle cafodd Seland Newydd gyfle i rannu ei gorfoledd ar ac oddi ar y cae.