Ym Mhacistan rhaid oedd iddo ffoi am ei fywyd wrth i'r dorf daflu cerrig ato ar Faes Criced Lahore. Yn Nhwrci llosgodd y dorf y stadiwm lle bu'n perfformio. Roedd cymhlethdodau a chystuddiau yn dilyn Orig Williams, neu El Bandito (fel cafodd ei adnabod yn y cylch) pan oedd yn mynd a'i sioe reslo dramor.
Bu'n ymladd yn erbyn ac yn hyrwyddo rhai o'r goreuon - gan gynnwys Giant Haystacks a Big Daddy. Man dechrau gyrfaoedd llawer o reslwyr oedd garej Orig Williams yn y Rhyl. Fe oedd y cyntaf i hyrwyddo reslwyr benywaidd ar deledu Prydeinig; rhywbeth a gondemnwyd gan bennawdau a chyfarfaoedd protest.
Fe ddaeth yn adnabyddus drwy Gymry gyda'r gyfres deledu Reslo ar S4C cyn troi'n golofnydd poblogaidd yn y Daily Post gyda'i sylwebaeth gadarn, ddi-lol.
By farw yn 2009, ond nid cyn recordio'i hanes ar dâp i'r dyfodol.
Dyma ei stori.