Llyfr taith newydd cyffrous gan y Dyn Dwad. Trydedd gyfrol "Trioleg y Trai", ei atsudiaethau swmpus a chraff ar hanes Cymru yn ystod degawd cyntaf yr unfed ganrif ar hugain.
Yn dilyn llwyddiant ysgubol y ddwy gyfrol gyntaf, "Walia Wigli" ac "Alias, Myth a Jones", mentrodd Goronwy Jones i'r farchnad ryngwladol y tro hwn gan gyfansoddi "Ffanffer i'r Dyn Coman" ble bynnag y bo.
Cyfeithwyd y nofel "Walia Wigli" i nifer o ieithoedd lleiafrifol a chipiodd y cyfieithiad Albaneg Wobr Goffa Enver Hoaxer "The Golden Rose of Tirana". Enillodd y comic "Alias, Myth a Jones" dlws Gwyl y Gelli Gandryll Dipia Man, sef yr "Absolutely Laughable", ac mae'r gyfres deledu ar y ffordd... rywle rhwng Aber-din ac Abergofiant...
Ar ol bod wrthi am bymtheg mlynedd ar hugain yn llafurio yn y maes, "Nefar in Ewrop" fydd taith olaf y bardd o Gaernarfon sy'n golygu prynu par o slipars cyfforddus a threulio rhagor o amser yn meindio'i fusnes yn ei dai haf yn Coventry a Siberia...
"Left-wing nationalist commentator Goronwy Jones and his politician wife, Sian, seek Wales out in this lively romp around Europe..." (New York Literary Revue)
Un fach yw nghenedl i
Rhoddwyd y gora iddi.
(Wadlo Williams)
Chwerthwch tra medrwch chi yr hen hogia...