Brodor o ardal y Preseli yng ngogledd Sir Benfro yw'r Prifardd Eirwyn George. Gadawodd Ysgol Ramadeg Arberth yn 15 oed pan gafodd ei dad ddamwain ddifrifol adeg y cynhaeaf gwair a bu'n gweithio gartref ar y ffarm am 12 mlynedd. Wedi bwrw blwyddyn yng Ngholeg Harlech a chymryd gradd anrhydedd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth bu'n athro Cymraeg a Hanes yn Ysgol Uwchradd Arberth ac Ysgol Gyfun y Preseli, a hefyd yn Llyfrgellydd Gweithgareddau yn Llyfrgell y Sir yn Hwlffordd am 15 mlynedd cyn ymddeol.
Enillodd 14 o wobrau yn Adran Lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol o bryd i'w gilydd yn cynnwys y Goron ddwywaith, yn 1982 ac 1993. Cyhoeddodd hefyd 15 o gyfrolau yn cynnwys barddoniaeth, hanes, rhyddiaith greadigol a llyfrau iaith.
Mae'n briod â Maureen o Hermon ac yn byw ym mhentre Maenclochog.
Yn Fel Hyn y Bu cawn fwynhau ei atgofion byw o gyfnod plentyndod hyd y dydd heddiw, gan brofi yn anad dim ei ddawn i drin geiriau a'i adnabyddiaeth ddigymar o'i fro enedigol, sydd yn amlwg yn annwyl iawn iddo.