Ar ol cael ei ddewis yn faswr y flwyddyn yn Ffrainc a dod yn arwr i gefnogwyr Clermont Auvergne, roedd dod nol i'r Strade a chael ei benodi'n gapten Cymru yn dipyn o newid byd i Stephen Jones.
Gyda phwysau'r wasg a Chymru gyfan ar ei ysgwyddau, cafodd flwyddyn gythryblus, gan gyrraedd rownd gyn-derfynol Cwpan Heineken gyda'r Sgarlets a thymor rhwystredig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Chymru.
Yma cawn gipolwg ar ei fywyd personol, hynt a helynt carfan Cymru a'r Sgarlets, a darlun diddorol tu hwnt ar fywyd a rygbi yn Ffrainc. I gloi, ceir ei farn onest ar ymdrechion Cymru wrth iddo ddychwelyd i'r wlad honno ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd.