Chwilio am Sebastian Pierce
Nofel am dwyll a dialedd. Pasg 1973: mae'r rhyfel yn Fietnam newydd ddod i ben, mae sgandal Watergate yn ei hanterth ac ar y Costa del Sol mae Byron a Huw yn cwrdd â Sebastian ac yn ildio i'w gyfaredd. Mehefin 2007: erbyn hyn, mae Huw yn ddyn tywydd ar y teledu ac yn darogan glaw trwm. Gwerthwr tai yng ngorllewin Cymru yw Byron. Daw tystiolaeth i'r golwg fod Sebastian yn dal yn fyw.