Bu'r cyfnod ers 1945 yn un o newid mawr i Gymru; dyma hanner canrif a welodd egino datganoli gwleidyddol a sefydlu, fesul cam, fesurau ymreolaeth i'n gwlad. Yn y gyfrol bwysig a dadlennol hon, cawn bortread o ferw gwleidyddiaeth y cyfnod gan un a fu yn ei chanol hi ac sydd, o ganlyniad, yn meddu ar olwg unigryw ar y digwyddiadau allweddol a'r personoliaethau canolog a ddaeth â'r newidiadau pellgyrhaeddol hynny i fod. Ond mae'r bargyfreithiwr a'r gwleidydd gwlatgarol yr Arglwydd Gwilym Prys Davies yn fwy na llygad-dyst gwybodus i'r digwyddiadau hyn; adlewyrchir hynny yn ei ddadansoddiad craff a di-flewyn-ar-dafod o lwyddiannau ac anawsterau gwleidyddol y cyfnod. Fel un a chanddo wybodaeth bersonol o'r hyn oedd yn digwydd y tu ôl i'r llenni, mae'n pwyso a mesur ag awdurdod gyfraniad nifer o wleidyddion a gweision sifil dylanwadol y dydd - Goronwy O. Roberts, James Griffiths, Cledwyn Hughes, J. Emrys Jones, George Thomas, John Morris, Ron Davies ac eraill; pobl yr oedd yn eu hadnabod yn dda, a rhai ohonynt yn gydweithwyr iddo.
Sonnir hefyd am hanes sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 'a all fod yn egin senedd ffederal Gymreig - y grym cynyddol [a fydd] yn gyfrifol am ddiogelu ein hetifeddiaeth genedlaethol a datblygu dinasyddiaeth Gymreig' a rhoddir sylw i gyfraniad allweddol Cymdeithas yr Iaith yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i'r Gymraeg; brwydr, medd yr awdur, nad yw wedi ei hennill eto, o bell ffordd