Ddeng mlynedd ar hugain wedi cyhoeddi campwaith gwreiddiol Roy Stephens adeg Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1978, dyma gyhoeddi ei olynydd, wedi ei ddiwygio a'i helaethu gan Alan Llwyd. Mae'r gyfrol newydd hon yn ymateb i'r chwyldro a fu yn y defnydd o'r Gymraeg ac o'r Gynghanedd ers cyhoeddi'r gyfrol wreiddiol; cynhwysir rhwng y cloriau hyn ragor na 5,000 o eiriau ychwanegol. Os oedd eich hen Odliadur yn gyfaill hawdd ei gael mewn cyfyngder, dyma ffrind newydd sydd hyd yn oed yn fwy gwybodus!
Odliadur di-ail ydyw,
Mawr ei werth i'r Cymry yw.
Y Prifardd T. Llew Jones
Cannwyll i'r bobl, canllaw'r beirdd,
A deorfa cadeirfeirdd.
Yr Archdderwydd a'r Prifardd Dic Jones
O'r stôr rugl rhestri eglur
Dylai pawb gael odlau pur.
O. M. Lloyd