Dychmyga gael dy wahanu oddi wrth dy rieni a dy deulu. Dychmyga orfod symud o le i le gymaint o weithiau fel nad oes unman yn gartref go iawn. Dychmyga fyddinoedd yn chwilio amdanat. Ble alli di fynd? Pwy alli di ymddiried ynddo? Dyma sut yr oedd bywyd Edith Schwalb. Fel Iddewes oedd yn byw yn Ewrop adeg twf Natsïaeth, roedd hi bob amser yn cuddio. Pwy allai ei helpu hi? Ai Shatta a Bouli Simon, sydd wedi agor ysgol ar gyfer plant Iddewig sydd ar ffo? Ai Sarah Kupfer, merch arall sydd hefyd yn cuddio ac sy'n cynnig cyfeillgarwch iddi yn ystod cyfnod anoddaf ei bywyd? Oncle Albert a Tante Marie, ffermwyr ymroddgar sy'n barod i rannu cynnyrch eu tir gydag Edith er gwaetha'r cardiau dogni? Neu drigolion tref Mossac yn Ffrainc, sy'n barod i gynllwynio i guddio cannoedd o blant Iddewig gan beryglu eu bywyd eu hunain wrth wneud hynny.
Mae Stori Edith yn adrodd hanes ysbrydoledig a thorcalonnus merch fach yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes Ewrop