Mae Chris Stephens yn athro profiadol, ac yn ymarferol iawn wrth fynd i'r afael â chreu adnoddau. Mae'n ymwybodol iawn o'r prinder amser sydd gan athrawon i gynllunio a pharatoi deunydd ysgogol. Yn ffodus mae'n gasglwr deunyddiau heb ei ail - ac yn fwy na pharod i rannu'r trysorau y daeth ar eu traws. Canlyniad hynny yw ystod eang o syniadau ar gyfer athrawon ac awgrymiadau gwerthfawr ynglŷn â'r dull o'u cyflwyno.
Felly...
* dosbarthwch y cardiau trafod lliwgar
* cofiwch arddangos y posteri A2 ar y waliau
* argraffwch ragor o gopiau lliw o'r taflenni gwaith
* dangoswch a rhannwch y deunydd ar y bwrdd gwyn
* llungopiwch dudalennau o'r llyfr yn ol yr angen.
Amser Rhyfel: Y Llyfr
Bydd y llyfr hwn sydd yn llawn gwybodaeth ddiddorol yn creu darlun byw i blant yr unfed ganrif ar hugain o'r Ail Ryfel Byd, ac yn rhoi syniad iddynt o fywyd y cyfnod. Ceir gwybodaeth am adeiladu llochesau, y Blacowt, Dogni, y Faciwis a'r cyfeillgarwch a luniwyd rhyngddynt a phlant yng Nghymru ... cyfeillgarwch a barhaodd y tu hwnt i gyfnod y rhyfel. Mae'n siwr yr ysgogir teidiau a neiniau i ychwanegu at yr atgofion hyn wedi iddynt weld y llyfr hwn.