Yn ein hoes seciwlar ni, anodd dychmygu dechreuad tanbaid a chythryblus Methodistiaeth, a'r angerdd a'r nwyd a ddeilliodd o gymeriadau a gweithredoedd diwygwyr ifanc y ddeunawfed ganrif. Mae hynny'n arbennig o wir yn achos Howel Harris, y cymeriad enigmatig a dylanwadol sy'n cael ei bortreadu yn y gyfrol newydd hon. Treiddia deuoliaeth trwy gymeriad y Cymro mawr hwn a fu'n gymaint cyfrifol am lunio hanes diweddar ein gwlad. Roedd Harris, gŵr pendant a chlir ei feddwl mewn materion crefyddol, yn rhyfedd o wamal ym materion y galon, er enghraifft. Roedd yn gryn enigma yn ei oes ei hun - ac mae'n parhau i fod felly. Ond cawn yn y gyfrol ddarllenadwy hon bortread clir o fawredd diamheuol Howel Harris, er gwaetha'r ffaeleddau dynol. Yn y 'ffeithlen' hon, cyfunir arddull fywiog nofel a ffrwyth rhai blynyddoedd o ymchwil gan awdur sy'n hyddysg yn y maes. Ffynhonnell y dystiolaeth yw llythyrau Harris ei hun a'r dyddlyfrau y bu'n eu cadw mor ddyfal a manwl. Yn 2003 cyhoeddwyd casgliad cynhwysfawr o'r llythyrau a ddanfonodd ac a dderbyniodd, ond hyd yn hyn nid oes neb wedi ymgodymu â'r dyddlyfrau yn eu crynswth. Mae'r rhain yn dal eu gafael o hyd ar ddychymyg unrhyw ymchwilydd.