Plentyn bach oedd Ellen Davies pan ymfudodd ei theulu i Batagonia yn 1875, yn rhan o'r fintai obeithiol oedd â'u bryd ar wireddu breuddwyd ramantus Michael D. Jones. Yno y cafodd ei magu, yn ferch i lyfrwerthwr, ac fel Nel Fach y Bwcs y câi ei hadnabod. Ond ym 1900 bu'n rhaid i'r teulu symud yn ôl i Gymru ac i ailsefydlu ym mhentre Dre-fach Felindre, ger Castellnewydd Emlyn.
Er iddi ddioddef tlodi a chyni yn ystod ei magwraeth, roedd hiraeth Nel am Batagonia'n ddirdynnol. Gwyddai'n iawn mai Archentwraig yn ceisio ymgartrefu ymysg dieithriaid oedd hi. 'Er fy mod yn siarad Cymraeg,' meddai, 'theimlais i erioed fy mod i'n perthyn i Gymru'.
Cyfuniad yw'r gyfrol hon o'r ddwy gyfrol boblogaidd Nel Fach y Bwcs a Ffarwél Archentina gan Marged Lloyd Jones. Yn y diweddariad hwn o waith gwreiddiol ei mam gan Eiry Palfrey, wyres Ellen Davies, cawn gyfle o'r newydd i olrhain yr hanes rhyfeddol.