Wedi i'w yrfa addawol fel pêl-droediwr fynd yn ffliwt, does gan Dafydd Smith ddim dewis ond dod adre i'r Drenewydd i ddechrau gweithio i'r papur newydd lleol. Pan gaiff hen wraig ei llofruddio ar fferm gyfagos, caiff Dafydd ei hunan ar drywydd y stori cyn neb arall. Ond pam lladd hen wraig ddiniwed? Oes gan y parsel o bapurau â CYFRINACHOL wedi ei stampio arno rywbeth i'w wneud â'r achos? A beth yw rhan MI5 yn hyn i gyd? Yn sydyn mae'r cyw-newyddiadurwr yn gwybod gormod a'r cwestiwn mawr yw pa un o'r erlidwyr sy'n mynd i gael gafael ar Dafydd gynta, ai'r Cyrnol, yr heddlu ynteu'r Lladdwr? Mae'r stori llawn tensiwn yn symud yn gyflym o'r Canolbarth i goridorau grym Llundain, ac yn ôl i goedwigoedd a llynnoedd Powys. All Dafydd redeg yn ddigon cyflym i ddianc rhag y Lladdwr? Mae ei yrfa - a'i fywyd - yn dibynnu ar ddweud y stori, ond tybed a ydyw'n ddigon dewr i herio'r Sefydliad?
Dyma stori sy'n rhagflaenu Casglwr, nofel gyntaf Llion Iwan. Mae Llion, sy'n byw yn y Groeslon, Caernarfon, yn ddarlithydd newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.