Athrawes biano sydd newydd droi deugain oed yw Leri, yn byw mewn tŷ tamp ar rent, yn caru gyda gŵr dynes arall ac yn ffraeo byth a hefyd gyda'i brawd. Mae ei bywyd yn ddigyfeiriad a does ganddi fawr o obaith y bydd pethau'n gwella. Yr unig oleuni a gaiff yw rhoi gwersi piano i'w nai, Sam, athrylith pedair ar ddeg oed.
Un prynhawn, yn hollol annisgwyl, daw i'w meddiant focs llychlyd yn llawn o hen gerddoriaeth, ac yn ei waelod fwndel o lythyrau; llythyrau oedd yn perthyn i hen ewythr iddi, un a laddwyd, yn ddyn ifanc, yn y Rhyfel Mawr. Roedd Yncl Ifor yn gerddor hefyd, ond wrth geisio datrys dirgelwch ei fyw a'i farw, rhaid i Leri ystyried ei sefyllfa lwfr hithau ochr yn ochr â dewrder ei hewythr. Fe'i harweinir i Ffosydd Ffrainc, ac at wraidd stori ryfeddol Ifor; ond tybed a all hyn ei helpu i ddod i delerau â hi ei hunan yn ogystal?