Dwy ferch, dau gyfnod, un achos. Mae Meinwen Jones wedi bod yn ymgyrchu'n ddiflino dros yr iaith Gymraeg ers cyfnod ei harddegau. Bellach, a hithau ar drothwy ei deugain oed, mae'n wynebu cwestiynau anodd. Mae Cymru heddiw, Cymru oes y Cynulliad, yn ddieithr ac oeraidd iddi: hen ffrindiau'n colli ffydd a hen elynion yn magu hyder. Gyda'r wlad fel pe bai'n newid o dan ei thraed, does ond un peth sicr - dyw Meinwen ddim am blygu i'r drefn. Wedi'r cyfan, mae ganddi ei hysbrydoliaeth, ei harwres: yr ymgyrchwraig eiconig, Simone Weil. Un o ferched disgleiriaf ei chenhedlaeth oedd Simone Weil, un o elit academaidd Ffrainc rhwng y ddau Ryfel Byd. Ond roedd yr ysfa am gyfiawnder yn llosgi ynddi, yn ei gyrru i roi heibio'i gyrfa brifysgol er mwyn uniaethu gweithwyr a'r tlodion. Wrth herio gormes ar y chwith ac ar y dde gyda geiriau, gweithredoedd a'r gwn, roedd hi'n fodlon aberthu unrhyw beth er mwyn yr achos: gyrfa, teulu, cariad - hyd yn oed ei bywyd ei hun. Doedd Simone ddim yn fodlon ildio, a dyw Meinwen ddim yn fodlon ildio chwaith. Ond 'Rhaid i bopeth newid' yw slogan yr ymgyrch, ac wrth i Meinwen geisio deffro cydwybod ei chenedl gysglyd, dinoethir rhagrith ac awydd am gyfaddawd y Gymru gyfoes ar bob ochr. Ond os yw 'popeth' yn golygu popeth, yna rhaid i Meinwen ei hunan ystyried a yw hin fodlon i'r newid ymestyn iddi hi ei hun. A fydd hi'n fodlon gwneud penderfyniad fydd yn newid ei byd am byth?