Cyfres i'r Byw: Nôl i'r Gwyllt
Addasiad Cymraeg o Back to the Wild, sef hanes eliffant ifanc a gaiff ei gipio o'i gynefin yn Affrica ac sy'n anhapus wrth geisio dygymod â byw mewn amgylchedd gwahanol gyda dynion cyn cael ei ddychwelyd i'r gwyllt. Mae'r testun yn fodd i ysgogi trafodaeth am y priodoldeb o gaethiwo anifeiliaid gwyllt; i ddarllenwyr CA2/3. (ACCAC)