Oes 'rhywbeth mwy na 'chysgod' yn y coed? Mae rhai pobl - o Lanymddyfri i lannau Dyfrdrwy (the banks of the river Dee) - yn credu hynny! Dyma gasgliad o storïau ysgafn (light), diddorol i ddysgwyr sy wedi bod yn dysgu Cymraeg am flwyddyn neu ddwy. Mae'r storïau i gyd yn sôn am ddigwyddiadau (events) bob dydd fasai'n gallu bod yn rhan o brofiadau (experiences) llawer ohonon ni; gwyliau glan y môr, meddwl am wneud rhywbeth yn yr ardd, mynd i'r Eisteddfod, breuddwydio am ennill y Loteri, gwneud addunedau (resolutions) - a'u torri - ymgyrchu (campaign) i achub yr ysgol leol... Ond mae tro yng nghyffon pob stori! (Each story has a twist in the tail!) Mae'r llyfr hwn yn ddelfrydol (ideal) ar gyfer darllen unigol neu mewn grŵp. Mae lefel yr iaith yn addas (suitable) i ddysgwyr sy'n barod am her (challenge), ac mae geirfa ar bob tudalen i'ch helpu. Gweithio gyda dysgwyr yng Ngwent y mae Lois Arnold. Mae'n sicr ei bod hi'n nabod ei chynulleidfa (audience) yn dda, a bydd y llyfr hwn o ddiddordeb i ddysgwyr ym mhob rhan o'r wlad.Enillodd y gyfrol hon y gystadleuaeth paratoi deunydd darllen i ddysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2003.