Mae'n daith car. Mae'n lôn arw. Hon yw lôn Eleni a'i hen fodryb, Bigw. Lôn atgofion aflonydd. Lôn gwrthdaro rhwng dwy genhedlaeth. Lôn greulon y gri olaf...
Mae Si Hei Lwli yn un o glasuron cyfoes y nofel Gymraeg ac enillodd Fedal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1991. Ochr yn ochr â'r gwreiddiol ceir trosiad Saesneg gan y bardd a'r cyfieithydd, Elin ap Hywel.
Dywed Meg Elis, un o feirniaid y Fedal Ryddiaith mai 'dyma un o'r ymdriniaethau gorau yr wyf erioed wedi'i weld na'i ddarllen o henaint'.