Adolygiadau
Dydy ffeindio'ch ffordd yn y byd ddim yn hawdd, ond gallwn ni i gyd ddysgu rhywbeth gan Beca ddewr.
Stori afaelgar sy'n ein hannog i gwestiynu ac i edrych ar sefyllfaoedd o wahanol gyfeiriadau er mwyn cael y darlun llawn. Dylai pob bwli a phob un sydd wedi cael ei fwlio ddarllen y llyfr yma.
- Nia Parry
Mae gwersi chwaraeon yr ysgol uwchradd yn gallu creithio pobl am flynyddoedd, fel y gŵyr nifer ohonon ni, ac mae'r nofel fer hon yn delio efo diffyg hyder yn arbennig o dda [...] Mae'n stori dda iawn beth bynnag, ac ro'n i'n gwingo ac yn dal fy ngwynt ac yn ebychu 'Wel, yr hen jaden!' yn aml.
- Bethan Gwanas
'O'r frawddeg gyntaf, sy'n ddigon pigog, mae rhywun isie gwybod mwy am yr hyn sy'n digwydd ym mywyd Beca. Mae'n nofel, wi'n credu, fydd yn apelio yn fawr at bobl ifanc fydd yn gallu uniaethu â'r pryderon, y disgwyliade a'r ddeialog fewnol sy'n gallu mynd yn drech na rhywun weithie.
- Heledd Cynwal
Dros yr wythnos diwethaf, ers darllen Sblash!, teimlaf fod stori Beca wedi llwyddo i newid fy meddylfryd personol am hunanddelwedd. Efallai bod geiriau cas Siwan yn adleisio'r hyn rydym ni'n dweud wrth ein hunain wrth gymharu ein cyrff i gyrff eraill, neu wrth ddyheu am fod yn siâp gwahanol. Ond anodd yw darllen Sblash! heb ail-ystyried y ffordd rydym ni'n meddwl am ein cyrff, gan bwysleisio mor ddi-nod yw safonau harddwch cyfoes fel dull o asesu hunanwerth. Yn sicr, dyma gyfrol fyddwn i'n ei hargymell i bob merch ifanc, gyda'r gobaith y byddwn ni i gyd yn mabwysiadu egwyddor Beca ac edrych yn ddyfnach na golwg arwynebol.
- Alice Jewell, meddwl.org