Dyma gyfrol sy'n rhoi golwg newydd ac eithriadol ddiddorol ar hanes y mudiad cenedlaethol o ddyddiau cynnar Plaid Cymru hyd at ddechrau'r 1980au.
Yn llythyrau personol arwyr Penyberth amlygir brwdfrydedd ac aberth y tri dros eu gwlad. Ceir golwg unigryw ar ddatblygiadau gwleidyddol y cyfnod ac ar hynt a helynt y Blaid Genedlaethol a sefydlwyd ganddynt hwy a'u cyfeillion.
Ceir hefyd olwg ar eu helyntion personol; weithiau eu gorfoledd yn wyneb llwyddiant, a'u haml siomedigaethau wrth ddioddef ymosodiadau a difrawder eu cyd-Gymry. Mae tystiolaeth o ffyddlondeb anhygoel Valentine, D.J. a Saunders i Gymru yn treiddio drwy'r llythyrau. Aberthodd y tri dros y ddelfryd o sefydlu Cymru Rydd ac fe'u carcharwyd am eu gweithred herfeiddiol.
Dyma gorff o ohebiaeth wefreiddiol sy'n cael ei chyhoeddi am y tro cyntaf ac a fydd yn dyfnhau ein gwybodaeth am y cyfnod. Cynhwysir hefyd gyfweliadau dadlennol gyda Saunders Lewis a Lewis Valentine yng nghefn y gyfrol, sydd eto'n gweld golau dydd mewn llyfr am y tro cyntaf.