Pethe Brau - Addasiad Emyr Williams
"The Glass Menagerie" yw un o ddramâu llwyddiannus cyntaf Tennessee Williams. Ac er i'w chefndir fod yn estron i Gymru, mae ei phwnc yn dragwyddol ei apêl. Prif thema Tennessee Williams yn ei holl ddramâu (a thybed nad hon yw prif thema pob llenor yn y bôn?) yw'r gwahaniaeth rhwng rhith a phethau'n union fel y maent. Rydym ni i gyd yn byw'n foethus yn ein dychymyg, ac yna daw bywyd bob dydd, a hynny'n greulon, i roi ysgytfa ddidostur inni a gwneud hwyl am ein pennau. Dyna yw'r ddrama hon - stori am gariad sy'n wefr yn y dychymyg, ac eto'n ddim ond rhith i'w ddistrywio gan bethau fel y maent - peth brau nad oes dim yn ei aros ond cael ei dorri.
John Gwilym Jones