Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o 'Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear' gan Dyfed Elis-Gruffydd
Llun o\'Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear\'
ISBN: 9781800991491
Pris: £9.99
Cyfrwng: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Nifer y tudalennau: 215

Geiriadur Daeareg a Gwyddorau Daear

Prif amcan y geiriadur pwnc hwn yw cyflwyno a diffinio'r termau hynny sy'n ymwneud â daeareg yn benodol a'r gwyddorau daear yn gyffredinol. Er bod sawl geiriadur daeareg, megis Challinor's Dictionary of Geology a Oxford Dictionary of Geology & Earth Sciences, i'w cael yn Saesneg dyma'r unig eiriadur Cymraeg ei iaith.
Mae i'r geiriadur hwn ddwy ran, yn gyntaf, geiriadur sy'n diffinio dros 1,800 o dermau Cymraeg, ac yn ail, mynegai Saesneg - Cymraeg sydd yn cynnwys dros 2,000 o dermau Saesneg, ynghyd â'r termau Cymraeg cyfatebol. Gan hynny, rhagwelir y bydd y geiriadur o gymorth mawr nid yn unig i ddisgyblion ysgol, myfyrwyr coleg, athrawon, darlithwyr a chyfieithwyr, ond hefyd i'r chwilotwyr hynny a chanddynt ddiddordeb arbennig yn y pynciau a ganlyn: daeareg, geomorffoleg a daearyddiaeth ffisegol.

ISBN: 9781800991491
Pris: £9.99
Cyfrwng: Clawr Meddal
Iaith: Cymraeg
Nifer y tudalennau: 215