Adolygiadau
Sinistr o ddiniwed; anghynnes o agos-atoch; arteithiol o ddarllenadwy.
- Emyr Lewis
I mi, roedd o'n gyfuniad o farddoniaeth Beat poetry, Kerouac a Bob Dylan. Rhyfeddol!
- Rhys Mwyn
Mae dychan a hiwmor yn Wal, oes, ac mae'n hawdd i'r darllenydd o oedolyn nodio'n ddoeth wrth sylweddoli beth yn union sy'n cael ei ddarlunio: mae yna ddioddefaint, anabledd, hiliaeth, anffyddlondeb, creulondeb erchyll plant at ei gilydd – a'r cyfan yn dod i'r wyneb trwy'r geiriau syml, y brawddegau byrion, a'r ailadrodd.
- Meg Elis, Barn
Mae'n glyfar, meddylgar a hefyd, mewn mannau, lle rydan ni'n clywed llais diniwed y plentyn yn trio deall beth sy'n digwydd, yn ddigri iawn. A thrist hefyd.
- Ann Jones, Golwg
Mae'n nofel glyfariawn ac mi wnes i ei mwynhau hi'n arw.
- Bethan Gwanas, Llygad y Dydd
Weithiau, ond yn anfynych, bydd llyfr yn eich syfrdanu i'r fath raddau fel na allwch ddarllen dim byd arall am gryn amser. Dyna oedd fy mhrofiad i yn darllen Wal gan Mari Emlyn. Nid yw'n ddigon dweud fod llyfr yn 'wahanol'... ond yn achos y cyfanwaith cywrain, cynnil a gwefreiddiol hwn, mae 'gwahanol' yn sicr yn ansoddair dilys.
- Bethan Mair, O'r Pedwar Gwynt
Waw. Jyst... waw! Os bu erioed lyfr amserol, dyma fe. Nid nofel gyffredin mohoni... ond nid dyddiau arferol mo'r rhain. Rhaid ei darllen.
- Bethan Mair, Trydar
Waw am lyfr. 'Wal' gan Mari Emlyn. Arddull unigryw, mor gynnil, gwahanol i unrhyw beth arall dwi wedi'i ddarllen a mor amserol. Darllenwch hi.
- Nesta Gwilym, Trydar