O'r Tywyllwch
Mae'r byd wedi'i lygru gan bobl ac mae pawb yn cael eu gorfodi i fudo o'r wyneb i'r ddinas o dan y ddaear... am byth.
Ond beth mae Hywyn am ei wneud â Sam ei gi, gan nad oes hawl mynd ag anifeiliaid i'r Ddinas? A beth am gyfrinach Meilyr, ei ffrind gorau? Sut mae modd twyllo'r awdurdodau, a'r milwyr yn cadw llygad barcud ar bawb a phopeth?