Luned Bengoch
Lleoliad y nofel yw Cymru'r bymthegfed ganrif - cyfnod ymdrechion Glyn Dŵr i sicrhau rhyddid i Gymru. Mae Rhys a Luned am ymuno â'r ymgyrch, ond daw'r ddau ifanc wyneb yn wyneb â pheryglon. Mae Luned yn gymeriad cryf a phenderfynol, ond mae ganddi ei brwydrau mewnol ei hun i'w hymladd yr un pryd. Clasur o nofel i bobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd.