Delilah (e-lyfr)
Pan ddiflanna ei olygydd Humph Blake ac y darganfyddir corff ar safle'r stadiwm cenedlaethol newydd, mae'r newyddiadurwr Twm Bradley yn dechrau amau'r dyn a fu fel tad iddo. Gyda phawb wrthi fel lladd nadredd yn ceisio ailadeiladu'r lle ar gyfer twrnamaint rygbi, a all Twm ddatrys y cyfrinachau o gariad, twyll a llygredd i ddarganfod y gwir am ddiflaniad Humph?